Rhan o | atmosffer y Ddaear |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Carbon deuocsid (CO2) yn nwy hynod bwysig yn atmosffer y Ddaear. Mae'n 0.04% (400 rhan allan o filiwn) o'r atmosffer.[1][2] Er mai cymharol isel yw'r cryodiad ohono yn yr atmosffer, fe all CO2 weithredu fel nwy tŷ gwydr ac mae iddo rôl bwysig iawn yn y broses o reoli tymheredd wyneb y Ddaear.
Mae CO2 yn amsugno ac yn allyru ymbelydredd isgoch ar donfedd o 4.26 µm (modd dirgrynol) a 14.99 µm (modd dirgrynol a phlygiadol). Casglwyd gwybodaeth am grynodiadau a lefelau CO2 ers blynyddoedd, a gwelir nad yw'n sefydlog. Mae'r data'n dangos ei fod wedi newid yn sylweddol gyda'r amrediad at ei uchaf tua 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl (7,000 rhan mewn miliwn) yn ystod y cyfnod Cambriaidd ac ar ei isaf (180 rhan mewn miliwn) yn ystod y Rhewlifiad cwaternaidd, sef o 2.58 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP) hyd at y presennol.
Mae carbon deuocsid yn rhan hanfodol o'r cylch carbon, cylch daeargemegol byw, ble mae'r carbon yn cael ei gyfnewid rhwng cefnforoedd y byd, y pridd a'r biosffer cyfan. Mae'r biosffer presennol yn ddibynol ar CO2 atmosfferig: mae planhigion ac eraill yn defnyddio ynni'r haul i gynhyrchu carbohydrad allan o garbon deuocsid atmosfferig a dŵr, drwy'r broses a elwir yn ffotosynthesis. Yn ei dro, bwyteir y planhigion gan anifeiliaid ac organebau byw eraill: a dyma yw prif ffynhonnell eu hynni.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search